Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Medi 2025

Amser: 09.01 - 09.17
 


Preifat, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Steffan Lewis (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Marc Wyn Jones, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.

 

Dydd Mercher

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y caiff yr eitemau canlynol eu hychwanegu at yr agenda, yn amodol ar gadarnhad gan y grŵp Llafur o'r Aelodau y mae'n dymuno eu henwebu:

·         Cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd (5 munud)

·         Cynnig i benodi Aelod i bwyllgor (5 munud)

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.


</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

Dydd Mawrth 7 Hydref 2025

·         Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Parodrwydd at Lifogydd y Gaeaf Cynllunio i Wrthseffyll Tywydd y Gaeaf (45 munud)

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf Cadw Pobl yn Gynnes y Gaeaf hwn (45 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud) gohiriwyd tan 14 Hydref

 

Dydd Mawrth 14 Hydref 2025

·         Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud)


</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

Dydd Mercher 8 Hydref 2025 –

Cynnig i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru (5 munud)

 

Dydd Mercher 22 Hydref 2025 –

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Codi tâl am arddangosfeydd (60 munud)

Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

Dadl Fer: Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Amserlennu Cwestiynau Amserol

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at drafod cynnig i symud Cwestiynau Amserol, ar sail brawf, fel y byddent yn cael eu cymryd fel yr eitem olaf cyn y Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mercher.

 

Cytunodd mwyafrif y Pwyllgor Busnes i beidio â gwneud y newid arfaethedig. Nododd y Rheolwyr Busnes y gellid ailedrych ar amserlennu Cwestiynau Amserol fel rhan o drafodaethau’r Pwyllgor Busnes, sydd ar y gweill, ar amserlennu busnes y Senedd yn y Seithfed Senedd.

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch yr amserlen ar gyfer y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil a chytunodd ar yr amserlen.

</AI9>

<AI10>

4.2   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i ymestyn y terfynau amser adrodd ar gyfer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol canlynol:

·         Bil Cynlluniau Pensiwn tan 21 Tachwedd 2025

·         Bil Troseddu a Phlismona tan 21 Tachwedd 2025

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyfeirio rhagblaen y memorandwm atodol (Rhif 6) ar y Bil Iechyd Meddwl, y dywedodd y Trefnydd ei bod yn disgwyl iddo gael ei osod yr wythnos hon, at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno. Cytunwyd ar 7 Hydref fel y terfyn amser adrodd er mwyn caniatáu yr amser mwyaf posibl ar gyfer gwaith craffu gan bwyllgor cyn y ddadl ar yr un diwrnod.

</AI10>

<AI11>

5       Comisiwn y Senedd

</AI11>

<AI12>

5.1   Aelodaeth Comisiwn y Senedd

Yng ngoleuni'r lle gwag ar Gomisiwn y Senedd, penderfynodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd y Grŵp Llafur i enwebu Aelod i fod yn bedwerydd Aelod o Gomisiwn y Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory, yn amodol ar gadarnhad yr Aelod i'w enwebu.

</AI12>

<AI13>

6       Amserlen y Senedd

</AI13>

<AI14>

6.1   Dyddiadau Toriadau

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a Thoriad y Pasg 2026, sy'n rhedeg hyd at ddiwedd y Senedd bresennol.

</AI14>

<AI15>

7       Unrhyw Fusnes Arall

Nododd y Pwyllgor Busnes fod Laura Anne Jones AS wedi dweud nad yw'n dymuno manteisio ar y cynnig o le ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>